Peter Black yn croesawu Ymgyrch Glasfyfyrwyr MIDR Cymru
Rhoddodd llefarydd Addysg Democratiaid Rhyddfrydol Cymru Peter Black ei gefnogaeth yr wythnos hon i MIDR Cymru, wrth iddynt lansio eu hymgyrch Ffair y Glasfyfyrwyr fwyaf eto.
Dywedodd Mr Black: “Ar adeg pan mae llawer o bobl yn cyhuddo myfyrwyr o apathi politicaidd, mae MIDR Cymru yn ffynnu, gan ddarparu fforwm ar gyfer dadl a lle i fyfyrwyr fynd i’r afael a’r materion o bwys sy’n effeithio arnynt.
“Os yw myfyrwyr eisiau plaid wleidyddol sy’n edrych ar ôl eu buddiannau, yr unig opsiwn yw Democratiaid Rhyddfrydol Cymru. Yr ydym wedi ymgyrchu dros gyllido i brifysgolion yng Nghymru sy’n gydradd â’r rhai hynny sydd ar draws y ffin. Yn 2005, mi arweiniom ni’r ymgyrch yng Nghynulliad Cymru i orchfygu dod i mewn â ffioedd ychwanegol yng Nghymru.
Dywedodd Adi Smith, Cadair MIDR Cymru:
“Mae MIDR Cymru wrth ei bodd i gael nifer mwy nag erioed o stondinau Glasfyfyrwyr eleni, ar hyd a lled Cymru. Mae gennym amrywiaeth ffantastig o ymgyrchoedd sy’n delio â materion sydd o wir bwys i fyfyrwyr prifysgolion Cymru.
“Yr ydym wedi sefydlu ein harfer, na all unrhyw blaid ieuenctid yng Nghymru ei churo, o gefnogi ein hymgyrchoedd â pholisi go iawn y blaid. Yr wyf yn hyderus iawn y byddwn yn cael tymor Glasfyfyrwyr hynod o lwyddiannus, ac yr wyf lawn mor hyderus y bydd MIDR Cymru yn ymgyrchu yn etholiadau’r Cynulliad ar raddfa a fydd yn ehangach ac yn well nag erioed.”
Notes/Nodiadau:
Bydd gan MIDR Cymru (Myfyrwyr ac Ieuenctid Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) stondinau yn y prifysgolion canlynol:
Aberystwyth – Medi 27ain
Caerdydd– Medi 28ain
Bangor – Medi 27ain-28ain
Abertawe – Medi 27ain-29ain
http://www.midrcymru.org.uk/
Ends/Diwedd
WELSH LIBERAL DEMOCRATS DEMOCRATIAID RHYDDFRYDOL CYMRU |