The following are motions submitted by MIDR
Cymru, a series of amendments to which have been tabled that will be available at
conference.
Motions as
follows:
Na i Ynni Niwclear yng
Nghymru
Mae’r Gynhadledd yn mynegi ei phryder ynglŷn â’r canlynol:
- Mae’r Llywodraeth Lafur yn San Steffan yn debygol o gomisiynu cenhedlaeth
newydd o orsafoedd ynni niwclear ar draws y Deyrnas Unedig.
- Mae adolygiad ynni Llywodraeth
y DU, ‘Ein Her Ynni’ yn cynnwys ystyriaeth weithredol o genhedlaeth newydd o orsafoedd pŵer
niwclear gan gynnwys rhai yng Nghymru.
- Buasai penderfyniad ynglŷn â gorsaf bŵer
niwclear yng Nghymru yn cael ei gymryd yn San Steffan ac nid yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae’r Gynhadledd yn ail-gadarnhau ei chred fel a ganlyn:
- Cryfhau cynhyrchu ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni yw’r mesurau
allweddol wrth fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.
- Mae gan Gymru botensial o ran
adnoddau a thirwedd i gyflwyno cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr.
Mae’r
Gynhadledd yn galw am i:
- Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru yn San Steffan a’r
Cynulliad Cenedlaethol fel ei gilydd i wrthwynebu unrhyw gynlluniau i gomisiynu gorsaf bŵer
niwclear newydd yng Nghymru.
- Bwerau i wneud penderfyniadau cynllunio ynglŷn â
datblygiadau ynni sy’n cynhyrchu mwy na 50MW i’w datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Micro-gynhyrchu
Mae’r Gynhadledd yn nodi
fel a ganlyn:
- Mae micro-gynhyrchu trydan yn dechnoleg brofedig, ac mae wedi bod
o fudd eisoes i fusnesau a chymunedau ledled y DU.
- Buasai micro-gynhyrchu yn caniatáu i
gymunedau tlotach i gynhyrchu eu pŵer eu hunain, ac o bosibl, werthu unrhyw weddill yn ôl i’r
Grid Cenedlaethol, a thrwy hynny, arbed arian., a gellid ail-fuddsoddi’r elw a gynhyrchwyd yn y
gymuned.
- Mae dulliau cynhyrchu ynni amgylcheddol-gyfeillgar megis haul a gwynt wedi’u
treialu’n llwyddiannus ar y raddfa hon.
- Mae llawer o gymunedau Cymreig yn rhai delfrydol
ar gyfer gwneud defnydd o’r dechnoleg hon.
Mae’r Gynhadledd yn galw am y
canlynol:
- Gosod technolegau micro-gynhyrchu ym mhob adeilad dinesig.
- Rhoi cymhorthdal tuag at y gost o osod technolegau micro-gynhyrchu priodol i gymunedau
sy’n dymuno manteisio ar y technolegau hyn.
- Pwerau ynglŷn â rheoliadau adeiladu i’w
datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru; gyda golwg ar gyflwyno canllawiau ynglŷn ag
effeithlonrwydd ynni ar gyfer pob annedd domestig newydd.
|