Ym 1997, cyflwynodd Llafur y gyfundrefn ffioedd hyfforddiant bresennol, gan honni y buasent yn
“gosod addysg uwch ar sail gadarn am y ddau ddegawd nesaf.” Yn 2001, gwnaethant addo
“na fuasent yn cyflwyno ffioedd atodol a buasent yn deddfu yn eu herbyn. Gwnaeth Llafur
addewid cyffelyb ar gyfer Cymru yn eu maniffesto ar gyfer y Cynulliad yn 2003, addewid a ddaw i
ben yn 2007.
Yn 2004, gorfododd Llafur ffioedd atodol trwy’r Senedd,
gan dorri’r addewid hwn yn uniongyrchol.
Yn 2005, arweiniodd y
Dem Rhydd yng Nghynulliad Cymru'r ymgyrch i orchfygu cyflwyno ffioedd Atodol yng Nghymru.
Bellach, eithrir myfyrwyr Cymreig, sy’n astudio yng Nghymru o’r ffioedd atodol pan
gânt eu cyflwyno y flwyddyn nesaf.
Mae MIDR CYMRU a’r
Democratiaid Rhyddfrydol wedi ymrwymo i ddileu holl ffioedd myfyrwyr, a dod yn ôl
â’r union grantiau cynhaliaeth yr oedd cymaint o AS Llafur yn hapus i’w hawlio
tra roeddent hwy yn y Brifysgol.
Mae David Cameron newydd roi’r
gorau i “wrthwynebiad” y Ceidwadwyr i Ffioedd Ategol. Bellach, mae hi i fyny i’r
Dem Rhydd i barhau’r frwydr yn erbyn ffioedd.
DYMA BETH ALLWCH CHI EI WNEUD
NAWR
- Ymwelwch â www.scraptuitionfees.com a helpwch yr ymgyrch i ddileu ffioedd ar draws y DU, nid
dim ond i fyfyrwyr Cymreig.
- Ysgrifennwch at Weinidog Addysg y DU, Ruth Kelly yn y
Tŷ Cyffredin, Jane Davidson yng Nghynulliad Cymru a dywedwch wrthynt beth yr ydych yn ei
feddwl am ffioedd.
- Cynteddwch eich AS a’ch AC a dywedwch wrthynt beth yr
ydych yn ei feddwl am ffioedd.
- Ymunwch â MIDR CYMRU a helpwch ni i ymgyrchu
yn erbyn ffioedd yng Nghymru a’r DU.
|